Menu

Quick Links

Uned Drochi

Iaith Caerdydd

Google Services

Google Translate

Google Translate

Google Search

Google Search

Slideshow

Information for Parents/ Gwybodaeth i Rieni

If your child is a latecomer transferring to Welsh medium education, you may be asking some of these questions:

 

 

How long will my child spend at the Welsh Immersion Unit?

Secondary pupils are expected to spend 4 days a week for at least a term and a half at the Welsh Immersion Unit or until they have achieved a level of fluency that will allow them to have access to Welsh medium education. 

 

What happens every Friday?

Pupils will spend every Friday with their peers in their registered school.

 

How will my child learn Welsh?

A carefully structured cross-curricular scheme of work is provided by specialist staff through a variety of effective language immersion methods and fun experiences to develop language, e.g. playing board games and interactive digital games and drama. Our focus is on speaking and listening and an appropriate level of Welsh reading and writing will be taught to prepare your child for the Welsh medium curriculum.

 

How many pupils are in the Welsh Immersion unit?

This will vary from year to year but pupils will always benefit from being in small classes with fewer pupils than in mainstream lessons and with a staff ratio of 1:8 in the Secondary Immersion class. Groups of children varying from Year 7 to Year 9 are taught in the same classroom with tasks and activities differentiated according to their age and ability.

 

Will my child miss out on Sports Day and school trips during their time at the Welsh Immersion Unit?

Pupils attending the Welsh Immersion Unit are given equal opportunities to take part in special events held in their registered schools e.g. Christmas Concerts, Sports etc. You will need to inform the Welsh Immersion staff of any such events at your child's registered school.

 

How will my child get to the Welsh Immersion Unit every day?

Transport is provided free of charge by the Local Education Authority using school transport contractors when Secondary pupils need to travel outside of catchment to the Welsh Immersion Unit.

 

What should my child wear to the Welsh Immersion Unit?

Pupils who attend the Welsh immersion unit are expected to wear school uniform and follow the school uniform rules of their registered school.

 

What can my child have for lunch at the Welsh Immersion Unit?

All school meals are paid for through your child's registered school's Parentpay website. When pupils need to travel to another school to attend the Welsh Immersion Unit they will need to bring a packed lunch with them every day. School lunch can be provided for children who receive free school meals.

 

What happens after a term and a half in the Welsh Immersion Unit?

Pupils will be continually assessed during their time spent at the Welsh Immersion Unit and after 1.5 terms they will be introduced gradually to the mainstream lessons in line with their progress. They will be supported until the end of the academic year that they started in the Immersion Unit by means of a staff member either accompanying them to support them in the mainstream lessons or timetabled 1:1 intervention lessons as needed. 

Os ydy'ch plentyn yn hwyrddyfodiad i addysg Gymraeg efallai eich bod am ofyn rhai o'r cwestiynau isod:

 

 

Beth fydd y drefn bob wythnos i fy mhlentyn?

Disgwylir i hwyrddyfodiaid sy’n mynychu’r Uned drochi iaith dreulio 4 diwrnod bob wythnos am gyfnod o dymor o leiaf yn yr Uned drochi iaith, hyd nes eu bod wedi caffael lefel o hyfedredd yn yr iaith a fydd yn caniatau iddynt ddilyn addysg cyfrwng Cymraeg. 

Bydd disgyblion sy’n hwyrddyfodiaid yn treulio bob dydd Gwener yn eu hysgolion cofrestredig.

 

Sut fydd fy mhlentyn yn dysgu Cymraeg?

Darperir rhaglen waith draws-gwricwlaidd wedi’u strwythuro’n ofalus gan staff arbenigol trwy ddulliau trochi iaith amrywiol a phrofiadau hwyliog i ddatblygu iaith, e.e. chwarae gemau bwrdd a gemau digidol rhyngweithiol, chwarae rôl ac actio. Rydym yn blaenoriaethu y siarad a gwrando a bydd lefel briodol o ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg yn cael ei ddysgu er mwyn paratoi eich plentyn ar gyfer y cwricwlwm cyfrwng Cymraeg.

 

Faint o blant fydd yn y dosbarth?

Mae'r nifer yn y dosbarth yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond bydd y disgyblion bob tro yn elwa o fod mewn dosbarthiadau bach gyda niferoedd llai na mewn ysgolion prif ffrwd a gyda chymhareb staff 1:8 yn y dosbarth Uwchradd. Mae grwpiau o blant o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 9 yn cael eu dysgu yn yr un ystafell ddosbarth gyda thasgau a gweithgareddau gwahaniaethol.

 

A fydd fy mhlentyn yn colli cyfle i gymryd rhan yn y Mabolgampau a gwibdeithiau gyda'r ysgol?

Rhoddir cyfleoedd cyfartal i ddisgyblion sy’n mynychu’r Uned Drochi Iaith gymryd rhan mewn achlysuron arbennig a chynhelir yn eu hysgolion cofrestredig e.e. Cyngherddau Nadolig, Mabolgampau ac ati. 

 

Sut fydd fy mhlentyn yn cyrraedd yr Uned Drochi Iaith bob dydd?

Pan fydd angen teithio i dalgylch arall i gyrraedd yr Uned Drochi Iaith darperir cludiant yn rhad ac am ddim gan yr awdurdod addysg o’r cartref drwy ddefnyddio contractwyr cludiant ysgol.

 

Beth ddylai fy mhlentyn wisgo i'r Uned Drochi?

Disgwylir i ddisgyblion sy’n mynychu’r Uned Drochi Iaith wisgo gwisg ysgol a dilyn rheolau gwisg ysgol eu hysgol gofrestredig.

 

Beth fydd fy mhlentyn yn bwyta i ginio bob dydd?

Disgwylir i chi dalu am brydau ysgol ar wefan Parentpay ysgol gofrestredig eich plentyn felly os ydy'r Uned Drochi Iaith ar safle arall gofynnir i ddisgyblion ddod a phecyn bwyd i’r uned gyda nhw bob dydd. Mae modd darparu cinio ysgol i blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

 

Beth sy'n digwydd i fy mhlentyn ar ddiwedd eu cyfnod yn yr Uned Drochi Iaith?

Bydd disgyblion yn cael eu hasesu'n barhaol yn ystod eu hamser yn yr Uned Drochi Iaith ac ar ôl 1.5 tymor byddant yn cael eu cyflwyno'n raddol i'r gwersi prif ffrwd yn unol â'u cynnydd. Byddant yn cael eu cefnogi tan ddiwedd y flwyddyn academaidd gan aelod o staff yr Uned naill ai yn y gwersi prif ffrwd neu mewn gwersi unigol yn ôl yr angen.

Top