Menu

Quick Links

Uned Drochi

Iaith Caerdydd

Google Services

Google Translate

Google Translate

Google Search

Google Search

Slideshow

Information for Parents of Latecomers to Welsh Medium Primary Schools/ Gwybodaeth i Rieni Hwyrddyfodiaid i Ysgolion Cymraeg

If your child is a latecomer to Welsh medium education, you may be asking some of these questions:

 

 

How long will my child spend at the Welsh Immersion Unit?

Pupils are expected to spend 4 days a week for at least a term at the Welsh immersion unit or until they have achieved a level of fluency that will allow them to have access to Welsh medium education. 

 

What happens every Friday?

Pupils will spend all day every Friday in their registered school.

 

How will my child learn Welsh?

A carefully structured cross-curricular scheme of work is provided by specialist staff through various language immersion methods and fun experiences to develop language, e.g. playing board games and interactive digital games, role playing and acting, moving and singing. Our focus is on speaking and listening and an appropriate level of Welsh reading and writing will be taught.

 

How many children will be in my child's class?

You child will benefit from being in small classes with smaller numbers than in mainstream schools and with a staff ratio of 1:6 in the Primary class. Groups of children from Year 1 to Year 6 are taught in the same classroom with tasks and activities  differentiated according to their age and ability.

 

Will my child miss out on Sports Day and school trips during their time at the Welsh Immersion Unit?

Pupils attending the Welsh immersion unit are given equal opportunities to take part in special events held in their registered schools e.g. Christmas Concerts, Sports etc. You will need to inform the Welsh Immersion staff of any such events at your child's registered school.

 

How will my child get to the Welsh Immersion Unit every day?

Transport is provided free of charge by the Local Education Authority from home using school transport contractors.

 

What should my child wear to the Welsh Immersion Unit?

Pupils who attend the Welsh immersion unit are expected to wear school uniform and follow the school uniform rules of their registered school.

 

What can my child have for lunch at the Welsh Immersion Unit?

Pupils are expected to bring a healthy mid-morning snack and a packed lunch to the unit with them every day and school lunch is provided for children who receive free school meals.

 

What happens after leaving the Welsh Immersion Unit?

Pupils will receive a term of aftercare after leaving the Immersion Unit by means of a staff member visiting them to support them as needed at their registered school.

Os ydy'ch plentyn yn hwyrddyfodiad i addysg Gymraeg efallai eich bod am ofyn rhai o'r cwestiynau isod:

Beth fydd y drefn bob wythnos i fy mhlentyn?

Disgwylir i hwyrddyfodiaid sy’n mynychu’r Uned drochi iaith dreulio 4 diwrnod bob wythnos am gyfnod o dymor o leiaf yn yr Uned drochi iaith, hyd nes eu bod wedi caffael lefel o hyfedredd yn yr iaith a fydd yn caniatau iddynt ddilyn addysg cyfrwng Cymraeg. 

Bydd disgyblion sy’n hwyrddyfodiaid yn treulio bob dydd Gwener yn eu hysgolion cofrestredig.

 

Sut fydd fy mhlentyn yn dysgu Cymraeg?

Darperir rhaglen waith draws-gwricwlaidd wedi’u strwythuro’n ofalus gan staff arbenigol trwy ddulliau trochi iaith amrywiol a phrofiadau hwyliog i ddatblygu iaith, e.e. chwarae gemau bwrdd a gemau digidol rhyngweithiol, chwarae rôl ac actio, symud a chanu. 

 

Faint o blant fydd yn y dosbarth?

Bydd disgyblion yn elwa o fod mewn dosbarthiadau bach gyda niferoedd llai na mewn ysgolion prif ffrwd a gyda chymhareb staff 1:6 yn y Cynradd.

 

A fydd fy mhlentyn yn colli cyfle i gymryd rhan yn y Mabolgampau a gwibdeithiau gyda'r ysgol?

Rhoddir cyfleoedd cyfartal i ddisgyblion sy’n mynychu’r uned drochi iaith gymryd rhan mewn achlysuron arbennig a chynhelir yn eu hysgolion cofrestredig e.e. Cyngherddau Nadolig, Mabolgampau ac ati. 

 

Sut fydd fy mhlentyn yn cyrraedd yr Uned Drochi iaith bob dydd?

Darperir cludiant yn rhad ac am ddim gan yr awdurdod addysg o’r cartref drwy ddefnyddio contractwyr cludiant ysgol.

 

Beth ddylai fy mhlentyn wisgo i'r Uned Drochi?

Disgwylir i ddisgyblion sy’n mynychu’r uned drochi iaith wisgo gwisg ysgol a dilyn rheolau gwisg ysgol eu hysgol gofrestredig.

 

Beth fydd fy mhlentyn yn bwyta i ginio bob dydd?

Disgwylir i ddisgyblion ddod a phecyn bwyd i’r uned gyda nhw bob dydd a darperir cinio ysgol i blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

 

A fydd fy mhlentyn yn derbyn cefnogaeth yn yr ysgol wedi iddynt ymadael a'r Uned drochi iaith?

Bydd y disgyblion yn derbyn tymor o ôl-ofal yn eu hysgolion cofrestredig ar ôl iddynt adael yr Uned drochi iaith.

Top