Mae Uned Drochi Iaith Caerdydd wedi dechrau ar ei siwrnai i ddod yn Ysgol Noddfa gyda’r nod o hyrwyddo diwylliant o groeso, cynhwysiant, goddefgarwch a chyfeillgarwch at bawb - yn enwedig i’r rheiny sy’n ceisio lloches neu sydd yn ffoaduriaid.
Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd ymgorffori'r ethos hwn yn ein cwricwlwm, gan helpu i gefnogi addewid Caerdydd i fod yn Ddinas Noddfa.
Ein nod yw annog ein dysgwyr, staff a’r gymuned ehangach i ddeall beth a olygir wrth ‘ysgol noddfa’ gan estyn llaw cyfeillgarwch a pharhau i adeiladu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu croesawu, eu gwerthfaworogi a’u cefnogi.
Beth yw Ysgol Noddfa?
● Lle sy'n meithrin diwylliant o groeso a diogelwch i bobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys teuluoedd sydd yn ceisio lloches neu sydd yn ffoaduriaid.
● Addysgu cymuned yr ysgol gyfan am yr hawl i noddfa a nodi dulliau ymarferol i ddangos yr ymrwymiad hwnnw.
● Meithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol trwy hyrwyddo lleisiau a chyfraniadau pobl sy'n ceisio noddfa, annog dealltwriaeth o brofiadau pobl sydd wedi'u dadleoli a helpu i frwydro yn erbyn stereoteipiau.
School of Sanctuary
Uned Drochi Iaith Caerdydd has begun its journey to become a School of Sanctuary, with the aim of promoting a culture of welcome, inclusion, tolerance and friendship for everyone – especially for those seeking refuge or who are refugees.
We recognise the importance of embedding this ethos into our curriculum, helping to support Cardiff’s commitment to being a City of Sanctuary.
Our aim is to encourage our learners, staff, and the wider community to understand what is meant by a ‘school of sanctuary’, to extend a hand of friendship, and to continue building an environment where everyone is welcomed, valued, and supported.
● A place that fosters a culture of welcome and safety for people seeking sanctuary, including families who are seeking asylum or who are refugees.
● Teaching the whole school community about the right to sanctuary and identifying practical ways to demonstrate that commitment.
● Developing empathy and intercultural awareness by promoting the voices and contributions of people seeking sanctuary, encouraging understanding of the experiences of displaced people, and helping to challenge stereotypes.