

Mae Uned Drochi Iaith Caerdydd yn falch iawn o fod yr Uned Drochi Gymraeg gyntaf yng Nghymru i ennill statws Ysgol Noddfa. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i hyrwyddo diwylliant o groeso, cynhwysiant, goddefgarwch a chyfeillgarwch at bawb, yn enwedig y rhai sy'n ceisio lloches neu sydd yn ffoaduriaid.
Rydym wedi ymgorffori ethos Ysgol Noddfa yn ein cwricwlwm ac ym mywyd bob dydd yr Uned, gan gefnogi gweledigaeth Caerdydd fel Dinas Noddfa a sicrhau bod ein dysgwyr yn deall pwysigrwydd parch, empathi a pherthyn.
Ein nod yw parhau i annog ein dysgwyr, staff a'r gymuned ehangach i ddeall beth mae bod yn Ysgol Noddfa yn ei olygu yn ymarferol, gan estyn llaw cyfeillgarwch a meithrin amgylchedd lle mae pawb yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Fel yr Uned Drochi Gymraeg gyntaf yng Nghymru i gyflawni'r statws hwn, rydym yn falch o arwain y ffordd wrth hyrwyddo gwerthoedd noddfa, tegwch a chynhwysiant.
Beth yw Ysgol Noddfa?
● Lle sy'n meithrin diwylliant o groeso a diogelwch i bobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys teuluoedd sydd yn ceisio lloches neu sydd yn ffoaduriaid.
● Addysgu cymuned yr ysgol gyfan am yr hawl i noddfa a nodi dulliau ymarferol i ddangos yr ymrwymiad hwnnw.
● Meithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol trwy hyrwyddo lleisiau a chyfraniadau pobl sy'n ceisio noddfa, annog dealltwriaeth o brofiadau pobl sydd wedi'u dadleoli a helpu i frwydro yn erbyn stereoteipiau.
School of Sanctuary
Uned Drochi Iaith Caerdydd is extremely proud to be the first Welsh Language Immersion Unit in Wales to achieve School of Sanctuary status. This recognition reflects our ongoing commitment to promoting a culture of welcome, inclusion, tolerance and friendship for everyone, particularly those seeking sanctuary or who are refugees.
We have embedded the School of Sanctuary ethos throughout our curriculum and the daily life of the Uned, supporting Cardiff’s vision as a City of Sanctuary and ensuring that our learners understand the importance of respect, empathy and belonging.
Our aim is to continue encouraging our learners, staff and the wider community to understand what it means to be a School of Sanctuary in practice, by extending a hand of friendship and fostering an environment where everyone is welcomed, valued and supported. As the first Welsh Language Immersion Unit in Wales to achieve this status, we are proud to lead the way in promoting the values of sanctuary, equality and inclusion.
What is a School of Sanctuary?
● A place that fosters a culture of welcome and safety for people seeking sanctuary, including families who are seeking asylum or who are refugees.
● Teaching the whole school community about the right to sanctuary and identifying practical ways to demonstrate that commitment.
● Developing empathy and intercultural awareness by promoting the voices and contributions of people seeking sanctuary, encouraging understanding of the experiences of displaced people, and helping to challenge stereotypes.