Newyddion Diweddaraf
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd prif leoliad Uned Drochi Iaith Caerdydd y cynradd yn symud o Ysgol Groes-wen i Ysgol Pen-y-Groes. Mae'r symudiad hwn yn nodi pennod newydd gyffrous i'r Uned ac yn ein galluogi i barhau i ddatblygu a chryfhau'r ddarpariaeth drochi Cymraeg ar gyfer dysgwyr ledled Caerdydd.
Hoffem ddiolch yn ddiffuant i gymuned Ysgol Groes-wen am eu cefnogaeth a'u croeso dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi mwynhau gweithio ochr yn ochr â'r ysgol ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad pwysig y maent wedi'i wneud i lwyddiant yr Uned.
Edrychwn ymlaen at ymuno â chymuned Ysgol Pen-y-Groes ac at y cyfleoedd newydd fydd yn deillio o'r bartneriaeth hon. Bydd ein hymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o'r safon uchaf, mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar, yn parhau wrth galon popeth a wnawn.
We are pleased to announce that the main location of the Primary Uned Drochi Iaith Caerdydd will be moving from Ysgol Groes-wen to Ysgol Pen-y-Groes.
This move marks an exciting new chapter for the Unit and will enable us to continue developing and strengthening our Welsh language immersion provision for learners across Cardiff.
We would like to extend our sincere thanks to the Ysgol Groes-wen community for their support and welcome over recent years. We have greatly valued working alongside the school and appreciate the important contribution it has made to the success of the Unit.
We look forward to becoming part of the Ysgol Pen-y-Groes community and to the new opportunities that this partnership will bring. Our commitment to providing high-quality learning experiences in a supportive and welcoming environment will remain at the heart of everything we do.
Dydd Gŵyl Dewi Hapus!
Dymunwn Ddydd Gŵyl Dewi Hapus iawn i bawb! Gobeithio cewch chi ddiwrnod llawn popeth Cymreig - cennin Pedr, baneri coch, pice ar y maen a dathlu ein diwylliant arbennig.
Cofiwch eiriau Dewi Sant: "Gwnewch y pethau bychain." Beth am wneud un pethau bychan heddiw - siaradwch gymaint Gymraeg â phosib!
Happy St David's Day
Wishing everyone a very Happy St David's Day! We hope you have day full of all things Welsh- daffodils, red dragons, Welsh cakes and celebrations of our wonderful culture.
Remember the words of St David: "Do the little things." Why not do one little thing today - speak as much Cymraeg as possible!
Roedd hi mor hyfryd cael sgwrs gyda'r Ganolfan Brianne, yr Uned Drochi laith yng Nghaerfyrddin. Roedd yn wych gweld y
plant yn gofyn ac yn ateb cwestiynau ei gilydd mor hyderus. Mae'n braf iawn gweld plant yn gwneud cysylltiadau â
phlant eraill sy'n dysgu Cymraeg ac yn
rhannu profiadau tebyg. Diolch yn fawr!
It was so lovely to spend time speaking with the Canolfan Brianne, the Language Immersion Unit in Carmarthen. It was amazing to see the children confidently asking and answering questions with each other. It's really special to see children making connections with others who are learning Welsh and sharing similar experiences.
🌍✨ Dechrau ar ein taith i fod yn Ysgol Noddfa! 🏫💙
Rydym wedi cychwyn ar ein siwrnai i ddod yn Ysgol Noddfa, gan hyrwyddo croeso, cynhwysiant a chyfeillgarwch i bawb—yn enwedig y rhai sy’n ceisio lloches neu sydd yn ffoaduriaid.
Rydym yn cefnogi Dinas Noddfa Caerdydd ac yn ymrwymo i greu uned sy'n ddiogel a chynhwysol, un lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi.
🤔 Beth yw Ysgol Noddfa?
✅ Lle sy’n cynnig croeso a chefnogaeth i’r rhai sy’n ceisio noddfa.
✅ Yn addysgu’r gymuned am yr hawl i noddfa a sut i’w gefnogi.
✅ Yn meithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol.
Gyda’n gilydd, gallwn greu cymuned gynhwysol a chroesawgar! 💙🤝
#YsgolNoddfa #DinasNoddfa #CroesoCynnes #CymunedGynhwysol